Início cultura Rhaid bod yna fwy o bres…

Rhaid bod yna fwy o bres…

20
0

Oherwydd i mi dyfu i fyny mewn cyfnod llewyrchus a mynd i'r ysgolion iawn, rydw i wedi adnabod biliwnyddion. Oherwydd i mi ddewis gweithio fel awdur, proffesiwn lle does fwy neu lai yr un enaid byw yn America yn llwyddo i ennill ei fara menyn ohono, rydw i wedi adnabod awduron sydd ar ddibyn methdalu, yn cyfri pob un geiniog, yn byw ar bwrs eu cymar, neu ar sail y ffantasi y bydd y duw annwyl, cymwynasgar yr oedd fy nhad yn ei addoli yn eu hachub yn y pen draw. Rydw i am adrodd hanes tri o'r bobl hyn, sef dau biliwnydd ac un methdalwr. I'r biliwnyddion, doedd fyth ddigon o bres. I'r methdalwr, roedd mwy o bres nag oedd mewn gwirionedd.

Roedd A yn yr ysgol uwchradd efo fi. Byddai'n hoff o sefyll i fyny o flaen pawb a dechrau areithio ag un llaw yn ei boced, y llaw arall yn chwifio yn yr awyr; byddem yn ei alw ‘The Senator'. Roedd ei deulu'n dlotach na mwyafrif teuluoedd y plant yn ein dosbarth, a'r hyn a olygai hynny ar y pryd oedd bod y ddau riant yn gweithio. Ni fyddai'n cymryd rhan mewn gweithgaredd allgyrsiol, fel chwaraeon, clybiau, cylchgronau. Dwi ddim yn meddwl bod ffrindiau ganddo, hyd yn oed. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn ddiflas. Yr hyn nad oeddwn i'n sylweddoli ar y pryd oedd ei fod â ffocws.

Er na fu A a finnau mewn cysylltiad am ddegawdau, roedd digon o sôn am ei lwyddiannau. Priododd ferch un o berchnogion real-estate mwyaf Dinas Efrog Newydd ac yn fuan iawn daeth yn llaw dde ei dad yng nghyfraith. Yn nes ymlaen, ysgarodd ei wraig ond arhosodd yn y cwmni. Dyna natur busnes Americanaidd – daw arian o flaen cariad.

Ymhen amser, daeth yn ben ar y cwmni. Prynodd yr Empire State Building. Am warchodfa rhag marwolaeth! Onid oedd hynny'n rhoi teimlad o rym a nerth anhygoel i rywun? Trefnodd A ambell aduniad o'n dosbarth mewn tŷ bwyta penthouse yr oedd hefyd yn berchennog arno. Byddai'n rhodio'n hamddenol trwy'r dorf, un law yn ei boced, yn gwenu'n dawel, yn falch ond â'i feddwl yn rhywle arall. Ni fyddai cweit yn edrych i lygaid rhywun na heibio i rywun ychwaith. Y tu ôl i'r wên roedd anadl ofn, fel pe bai'n rhaid iddo fod yn effro'n barhaus i'r rhai hynny oedd am gymryd ei arian oddi arno.

Mewn un aduniad roeddwn i wedi meddwi ar Moët & Chandon A, ac roedd fy nhafod wedi llacio. Yn groes i'r graen rywsut, roeddwn i am ei longyfarch am ddod yn berchennog ar yr Empire State Building. ‘Yn hwyr y nos,' holais, ‘fyddi di fyth yn mynd i mewn i'r lifft yna ac yn reidio i fyny'n gweiddi, “Fi sydd pia'r Empire State Building goblyn!�' Gwelwodd. Diflannodd y wen o'i wyneb. Doedd ddim yn sicr ai gwneud hwyl am ei ben yr oeddwn i ai peidio. Ond beth bynnag am hynny, roeddwn wedi bod yn rhy aflednais. Camodd yn ôl a rhoi ei ben ar un ochr, a dechrau fy annerch fel petai'n siarad â newyddiadurwr anwybodus: ‘Nid y fi ydi ei berchen. Mae'n endid corfforaethol.' Llyncodd yn galed. Edrychai fel petai'n tagu ar ei bres. Efallai ryw dro arall i'w ffortiwn ei wneud yn hapus. Efallai ym mhreifatrwydd ei gartref neu gyda'i gydweithwyr corfforaethol, ei fod yn dathlu'r ffaith ryfeddol iddo brynu'r adeilad. Ond ddim y noson honno. Doedd gwybod ei fod yn berchen ar yr hyn oedd am ddegawdau y ffalws mwyaf yn y byd yn rhoi yr un iot o bleser iddo.

Roedd fy nghyfaill B fel Ewythr Scrooge McDuck, a hoffai nofio mewn bàth yn llawn pres.

Pan gyfarfyddais ag ef ar ôl y coleg, roedd yn gobeithio mynd yn gyfarwyddwr ffilmiau, ond roedd rhywbeth yn dweud wrtho am beidio â bod â ffydd yn y freuddwyd. Cyn y gallai fod yr hyn y dymunai fod, teimlai fod angen yn gyntaf ddigon o bres arno. Dechreuodd trwy ddosbarthu ffilmiau. Yna aeth ymlaen i gynhyrchu ffilmiau kung fu ac arswyd. Roedd yna bob amser rywbeth anarferol a difyr ynghylch y ffilmiau y byddai yn eu dewis; roedd yn sgut am y math o sothach sy'n mynd â bryd pobl ar eu gwaethaf. Yn ysbryd y 1980-1990au, ffynnodd ei gwmni ac yn fuan roedd yn cynhyrchu ffilmiau rydych chithau yn bownd o fod wedi eu gweld.

Yn y dyddiau cynnar, roedd yn hwyl bod yn ei gwmni. Roedd yn gogydd anturus ac yn cynnal partïon ardderchog gyda'r mariwana gorau, y gwin gorau a'r coceÌ‚n gorau. Prynodd dyÌ‚ yn edrych dros Los Angeles, gyda lluniau gan Picasso a Bacon ar y waliau. Ond newidiodd. Setlodd cwmwl du uwch ei ben. Yn lle siarad am y ffilmiau oedd wrth ei fodd, dim ond am arian y byddai'n siarad mwyach. Roedd y pwysau wedi dechrau o ddifri. Roedd buddsoddwyr nodedig wedi rhoi eu pres arno. Er iddo weithio gyda chyfeillion yn wreiddiol, bellach ni fedrai weithio gyda nhw o gwbl. Roedd wedi cymryd sylw Groucho Marx yn llythrennol: ‘I refuse to join any club that would have me as a member.' Roedd rhywbeth ynddo oedd yn gyndyn o gredu ei fod aÌ‚'r hawl i lwyddo, ac adlewyrchu ei annheilyngod ef ei hun yr oedd ei ffrindiau. Neu tybed ai teimlo cywilydd yr oedd nad oedd wedi mynd yn gyfarwyddwr ffilmiau, yn unol aÌ‚'i fwriad gwreiddiol? Neu ai ei fuddsoddwyr oedd yn mynnu ei fod yn gwneud mwy o bres, mwy o bres…? Wrth i'r flwyddyn dwy fil agosaÌu, dyfeisiodd B gynllun mawreddog: byddai'n rhentu leinar efo 90 cabin ac yn gwahodd 270 o'i ffrindiau agosaf am wythnos ar y tro i dreulio pythefnos olaf 1999 a phythefnos cyntaf 2000 yn hwylio i fyny'r Amason, o afon fawr Orinoco i'r Iwerydd, gan griwsio moÌ‚r y CaribiÌ‚. Roedd arswyd, y dymuniad i osgoi diwedd y byd, pe deuai, a'i swae, oll yn ffactorau oedd i gyfri am ei rodd afradlon; os oedd y byd yn mynd i hunan-ddinistrio, byddai'n gadael mewn steil.

Fe es i ar ddwy o'r teithiau hyn. Dyna'r wythnos fwyaf moethus a dreuliais yn fy mywyd: bwyd gourmet (cimwch coch ddwywaith y dydd, champagne Roederer); awyren breifat i Angel Falls yn y jyngl yn Fenesiwela; tân gwyllt Nos Galan a aeth ymlaen am awr gyfan. Yn ystod y trip, prynodd corfforaeth ryngwladol gyfran fawr o gwmni B. Dros nos roedd wedi troi'n biliwnydd. Oedd o'n hapus ynghylch hynny? Ddim mewn gwirionedd. Dechreuodd edrych dan straen, roedd yr un olwg straenllyd arno ag oedd ar wyneb A. Daeth ei gyfeillion ato, roedden nhw am ei gofleidio, ei longyfarch. Camodd yn ôl: ‘Peidiwch â fy nghyffwrdd', byddai'n dweud. Roedd fel petai mwy yn golygu llai. Mae'n rhaid bod yna fwy o bres, mwy o bres…

Yna ceir y stori drist am fy ffrind annwyl, C, yr unig berson rydw i'n ei adnabod sydd wedi methdalu. Yn y byd busnes yn America tydi methdalu ddim yn ddiwedd pethau fel ag y mae yn Ewrop. Mae cyfraith methdalu yr Unol Daleithiau yn fwy meddal. Ni fu gennym erioed garchardai dyledwyr. Ychydig o stigma personol sydd yna wrth fethdalu ym myd busnes. I'r gwrthwyneb, i lawer mae'n gyfle i ddechrau eto â llechen lân: vide Donald Trump sydd wedi methdalu chwe gwaith. Ond mae methdalu personol yn wahanol. Mae'n gwneud cyfeillion y methdalwr yn nerfus: ‘Fydd rhaid i mi edrych ar eu hôl? Pam na welson nhw hyn yn dod? Ydyn nhw yn ddistaw bach yn ddiog, yn dwp, yn drwm eu clyw i'r alwad i wneud mwy o bres, mwy o bres?'

Roedd C wedi ei geni i ysgrifennu, ac efallai i fethdalu hefyd; roedd ei thad yn olygydd papur dyddiol uchel ei barch yn Efrog Newydd a aeth i'r wal yn y 1960au. Roedd yn ffraeth, roedd ganddi ffordd o gyfareddu pobl â'i steil siriol, yn gydnaws â byd cylchgronau merched ffas-iynol y dydd yn y 1970au. Bu'n olygydd ar nifer o gylchgronau amlwg, bu mewn perthynas dymor-hir â nifer o awduron a golygyddion adnabyddus. Roedd yn treulio digonedd o amser yn yr Hamptons. Ond wrth iddi fynd yn hŷn, dechreuodd pethau fynd yn ei herbyn. Bu farw ei chariad mwyaf adnabyddus, heb adael yr un geiniog goch iddi. Doedd dim plant ganddi. Dim etifeddiaeth. Erbyn iddi droi'n 65 oed, roedd y byd cyhoeddi'n ei hystyried allan o gyswllt â'r genhedlaeth iau, ac roedd hi'n ei chael yn anodd cael hyd i waith fel golygydd. Roedd wedi arfer â ffordd fonheddig golygyddion, asiantwyr ac awduron o drafod busnes: pan nad oedd golygyddion yn ymateb i'w cheisiadau am swyddi neu syniadau am erthyglau, gwenu ac anniddigo y byddai, nid eu poeni ag ebyst neu alwadau ffôn, fel y mae awduron heddiw yn gwneud.

A oedd hi fel y ddynes yn stori D H Lawrence, yn hardd ond yn ddi-lwc? Tueddaf i feddwl ei bod yn debycach i fersiwn eithafol o fy nhad, a oedd hefyd yn grediniol y byddai'r duwiau rywsut yn dangos ewyllys da. A hithau bob amser wedi bod yn ffasiynol o denau, aeth yn fwy ac yn fwy main. Ar wahân i lythyrau gan gyfeillion a chariadon adnabyddus, a werthodd i gasglwyr, yr un peth gwerthfawr oedd ganddi hi oedd fflat â'r rhent wedi ei reoli, yn Greenwich Village, lle bach bohemaidd delfrydol o'r 1950au. Ond roedd yr adeilad yn disgyn yn ddarnau, roedd llygod mawr yn cornelu ei chath, datblygwyr yn ceisio ei gorfodi allan. Sut oedd modd iddi hi dalu'r rhent? Byddai ei chyfeillion yn rhoi pres iddi hi, bob yn hyn a hyn, un wrth un yn hytrach nag ar y cyd, gan y byddai trefnu rhywbeth a chydnabod yn agored ei bod yn dlotyn yn llawer rhy greulon i rywun mor falch ac urddasol â C.

Yn y diwedd, penderfynodd fethdalu. Yn nhalaith Efrog Newydd, mae'r broses hon yn cymryd hyd at chwe mis. Rhaid casglu ynghyd waith papur di-ben-draw, a mwy fyth o bapurau i'w llofnodi. Rhaid mynychu cyfweliad hefyd ag ‘ymgynghorydd credyd'. Ac os oes yna gredydwyr sy'n gwrthwynebu'r trefniant, rhaid eu hwynebu. Fel y cofiaf, roedd yr awdur-dodau am iddi yn ogystal fynychu yr hyn a elwir ‘Debtors Anonymous' – un o spin-offs niferus Alcoholics Anonymous – a chyffesu'n gyhoeddus sut y daeth i fod yn y fath lanast ac na fyddai'n digwydd eto. Gwrthododd. Rhaid ei bod wedi mynegi hynny'n raslon ond yn bendant, oherwydd ni chlywais ddim mwy am y peth. Mewn egwyddor, gallai methdalu fod wedi ei rhyddhau. Ond roedd rhywbeth ynddi wedi ei golli, ei frifo, ei niweidio, fel y bachgen yn stori D H Lawrence. Iddi hi, fel ag iddo ef, roedd y sylw a fynnai arian ganddi yn ddigon i droi popeth da yn ei bywyd yn hyll. Datblygodd ffurf ar glefyd Parkinson's a byddai'n syrthio i gysgu ar ganol sgwrs. Ar ôl rhai munudau byddai'n deffro ac yn gwenu, yn ymddiheuro am y rhan o'r sgwrs roedd hi wedi ei cholli, yn cael rhyddhad o fod yn ôl ymysg y bobl oedd yn ei charu. Ni fyddai fyth yn siarad am arian. Roedd wedi methdalu, ond nid oedd hynny yn rhan o'i hunaniaeth, ei syniad amdani hi ei hun. Bu farw'n fuan wedyn.

Yng nghorneli tywyll a chudd ei chalon, beth oedd methdalu wedi ei olygu iddi hi? Na cherid hi ac felly ei bod hi hefyd yn ddiymgeledd? Bod ei duw digonedd wedi troi'n dduw dialedd? Bod methdalu jyst yn fwythair am farwolaeth?