Início cultura Celfyddyd anobaith

Celfyddyd anobaith

12
0

Oddi ar ddemocratiaeth yr Atheniaid, mae rhai rhannau o'r boblogaeth wedi bod yn cael eu heithrio: merched, caethweision, tramorwyr, ac ati. Mae'r drefn hon o eithrio grwpiau penodol yn dal i ddigwydd mewn democratiaethau modern, yn arbennig yn achos merched, y tlawd, mewnfudwyr, yn arbennig os ydynt o liw neu'n Fwslemiaid. Y bobl yma sy'n cael eu heithrio ydi'r rhai rydw i'n cyfeirio atynt wrth ddweud ‘y rhai a gaiff eu heithrio'. Os mai ystyr democratiaeth yw deialog rhyngoch chi a fi, nid yw y ‘fo', y ‘hi' wedi eu cynrychioli – na bywyd, sef y biosffer, yr amgylchfyd sy'n cael ei ddinistrio. Y person absennol ydi'r trydydd person nad yw'n derbyn gwahoddiad i'r sgwrs ddemocrataidd.

Chwyldroadau ydi'r ffordd y mae'r rhai sy'n absennol yn mynnu bod eu presenoldeb yn cael ei gydnabod gan wleidyddiaeth. Roedd hynny'n wir yn achos y chwyldroadau Ffrengig, Rwsiaidd a Syriaidd: roedd y rhai a oedd wedi eu heithrio gan wleidyddiaeth yn mynnu eu presenoldeb, dechreuodd y rhai y rhoddwyd taw arnynt siarad drostynt eu hunain, a daeth y rhai a oedd wedi eu gyrru i'r cysgodion i'r golwg. Daw democratiaeth o hyd i'w nerth trwy gynnwys y rhai a gafodd eu cau allan. Un achos eithafol o absenoldeb yw diflaniadau gorfodol. Fel y gwyddoch, mae hynny'n rhan o fy mhrofiad i.

Mae profiad personol a thorfol o ddioddefaint eithafol wedi peri imi feddwl am y berthynas rhwng dioddefaint ac ystyr. Mewn Arabeg, ceir cysylltiad etymolegol rhwng y gair mua'nat (‘dioddefaint') a ma'na (‘ystyr'). Yn ddiweddar, rydw i wedi datblygu'r syniad o ‘wleidyddiaeth ystyr': mae creu ystyron yn ein cynorthwyo i gyfleu ein profiadau'n well, i ddeall ein dioddefaint ac i ddelio â'n profiad o drawma. Mae'r syniad hwn yn ymateb i sefyllfa pobl sy'n byw yn alltud, y rhai sy'n byw ag ymdeimlad o anghyfiawnder, nad ydynt yn cael y rhyddid i alaru, sy'n dioddef o ganlyniad i'r ffordd anghyfartal y mae'r gallu i alaru yn cael ei ddosbarthu. Cafodd hyn effaith therapiwtig arna i, megis theodiciaeth.

Wrth i mi ddod yn ymwybodol o'r dimensiwn hwn, cyflwynais drydydd term, sydd hefyd aÌ‚ chyswllt etymolegol aÌ‚ mua'nat a ma'na, sef inaya, ‘gofal'. Nid wyf mwyach yn derbyn y syniad o weld ystyr yn ein holl boenau, ac felly eu hiachaÌu, fel ag y mae logotherapi Victor Frankl yn rhagdybio. Yr anhawster yw nad yw'r agwedd hon yn gadael lle i ddiffyg ystyr. Er mwyn ymladd nihilistiaeth, mae angen cydnabod bod yna ddioddefaint sy'n wag o ystyr. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn tueddu at bolisi o rifk – sy'n golygu ‘sylw', ‘caredigrwydd' a ‘chwmni da' – yn hytrach na ‘thrais', sef o ble daw [y gair] raifk, ‘cymrawd'.

Cyfiawnder trosiannol yw'r mater gwleidyddol pwysicaf yn Syria heddiw. Ond mae HTS yn ymddiddori'n fwy mewn osgoi gwrthdaro rhwng cymunedau a sefydlogi'r wlad, ac felly'n tueddu at amnesti cyffredinol. Mae'r feddylfryd hon wedi ei hysbrydoli gan esiampl y proffwyd Mohammed a ddywedodd wrth y trigolion pan gipiodd Mecca: ‘Ewch, rydych yn rhydd'. Ond mae'n bwysig deall bod miliynau o Syriaid wedi eu heffeithio'n uniongyrchol gan ddiflaniadau gorfodol a dienyddiadau diannod, heb sôn am ddinistr rhyfel. Mae'r alwad am gyfiawnder yn dod nid dim ond o du'r elît gwleidyddol, ond hefyd gan y bobl, sy'n cael eu cefnogi gan amddiffynwyr hawliau dynol. Yn wir, dyma gynnwys moesegol y chwyldro ei hun a'r mynegiant cyfreithiol ohono; nid mater o ddisodli'r gyfundrefn yn unig ydoedd.

Mae'r llywodraeth gyfredol yn ofni y gwnaiff system gyfiawnder drosiannol droi yn erbyn ei haelodau, oherwydd eu bod hwythau hefyd wedi cyflawni troseddau. Bydd cyfiawnder trosiannol, os y caiff ei gefnogi gan yr HTS o gwbl, wedi ei neilltuo ar gyfer troseddau'r gyfundrefn yn unig. Dyma'r troseddau mwyaf niferus, yn sicr. Ond nid y regime wnaeth gipio fy ngwraig, fy mrawd a fy ffrind, er enghraifft… Mi fydd brwydro dros y mater hwn. A dyma'r llinyn mesur yn erbyn yr hyn y caiff y cyfnod trosiannol hwn yn Syria ei farnu.

Beth yw'r berthynas rhwng gobaith ac anobaith ar sail eich profiad chi?

Mae mater gobaith ac anobaith wedi bod efo mi oddi ar fy mlynyddoedd cynnar yn y carchar yn y 1980au. Bryd hynny, roeddwn i'n meddwl bod gobaith yn fater o ddewis, bod rhywun yn dewis gweld y byd â gobaith yn hytrach nag anobaith. Roeddwn i o'r farn nad oedd gobaith yn fater o ddod i gasgliad rhesymegol ynghylch amgylchiadau byw. Doedd dim rheswm argyhoeddiadol dros obaith nac anobaith.

Ond yn ystod y blynyddoedd hir hynny yn y carchar, a ymddangosai'n ddiderfyn, dechreuais weld mai'r ffordd orau i ryddhau'r hunan o hualau anobaith oedd rhyddhau'r hunan o obaith. Lluniais gyngor i mi fy hun ac eraill ar sail hyn: er mwyn dal i gyfrannu i fywyd cyhoeddus, dechreuer o anobaith nid o obaith. Rhaid meistroli celfyddyd anobaith fel na wnaiff pobl fyth roi'r gorau i ymladd dros newid, hyd yn oed os ydi'r frwydr yn ymddangos yn anobeithiol.

Yn ystod y frwydr yn Syria, a'r colledion sylweddol, bathais derm i ddisgrifio llofruddio gobaith: ‘speicide'. I mi, ni ellir crynhoi'r drasiedi Syriaidd yn syml fel llofruddiaeth cannoedd o filoedd o bobl; roedd hefyd yn golygu nacaÌu unrhyw ystyr i ddioddefaint eithafol pobl Syria. Roedd yn golygu difa gobaith ar raddfa dorfol a masgynhyrchu anobaith.

Heddiw, tueddaf i feddwl mai camgymeriad yw gosod gobaith ac anobaith benben â'i gilydd, fel y byddwn yn gwneud fel arfer. Y tu hwnt i anobaith y mae gobaith, i'r un cyfeiriad felly, fel nad oes modd cyrraedd gobaith heb fynd trwy anobaith a'i gario gyda chi. Mae anobaith yn agosach atom na gobaith, yn syml iawn.

Sut y gall Al-Jumhuriya gyfrannu at y drafodaeth gyhoeddus yn Syria? A allwn ddibynnu ar newyddiadurwyr, academyddion a barnwyr digymrodedd i ailadeiladu'r wlad?

Mae dymchwel y gyfundrefn wedi achosi argyfwng i aelodau'r cylchgrawn, gan fy nghynnwys innau. Buom yn gobeithio am hyn ers blynyddoedd lawer, ond bu cyflymder dymchwel y gyfundrefn yn syndod i ni. Mae wedi golygu cwestiynu nifer o brosiectau a chodi'r mater o ddychwelyd i Syria. Rhaid i ni gydnabod bod ein gelyn wedi mynd a bod grym newydd bellach ar waith, un nad ydym yn ei ystyried yn elyn ond yn wrthwynebydd gwleidyddol. Y newyddion da ydi bod ein tîm yn Syria yn tyfu. Ond mae angen amser arnom i ystyried sut i ymuno yn y drafodaeth gyhoeddus, lle nad oes papurau newydd o hyd, ar wahân i Al-Watan, sydd ar gael ar-lein.

O ran academyddion, nid wyf mor siŵr. Mae ein deallusion gorau unai wedi marw neu yn alltud. Does dim prifysgolion safonol gennym, yn arbennig yn y pynciau dyneiddiol. Mae angen trawsnewid prifysgolion Syria yn drylwyr. Am y tro, mae'r llywodraeth newydd wedi bodloni ar eu hailenwi. Ar ben hynny, yn hanesyddol, mae'r brifysgol yn Syria wedi bod yn agosach at y wladwriaeth nag at y gymdeithas, ac mae bywyd deallusol wedi datblygu y tu allan i'r byd academaidd.

Mae cyfreithwyr yn chwarae mwy o ran ac yn ymateb i'r gofyn cyhoeddus am drafodaeth. Mae'r undebau llafur, ar y llaw arall, wedi bod ar stop ers iddynt ddod dan ddylanwad y gyfundrefn Baathaidd yn 1981. Nid yw'r gyfundrefn newydd wedi rhoi arwydd eu bod am hyrwyddo eu hannibyniaeth. Ac eto, ar gyfer ailstrwythuro cymdeithas sifil o ddifri yn Syria, mae'r undebau llafur o bwysigrwydd strategol mwy sylweddol na'r pleidiau gwleidyddol.

A yw hanes y chwyldro yn Iran yn eich cynorthwyo wrth ystyried y sefyllfa bresennol yn Syria?

Mae'r chwyldro yn Iran yn fyw ym meddyliau llawer o Syriaid. Ond nid yw cefnogwyr democratiaeth yn yr un sefyllfa â'r Iraniaid seciwlar ynddi a oedd yn weithredol yn y chwyldro cyn iddynt gael eu heithrio a hyd yn oed eu llofruddio gan y regime Khomeini. Yn wir, mae gwrthwynebwyr mwyaf selog cyfundrefn Assad yn dal i fyw yn alltud ac nid ydynt yn rhan o'r drefn wleidyddol newydd.

Wedi lladdfa'r Alawitiaid yn y rhanbarthau arfordirol ym mis Mawrth, mae'r awyrgylch yn llawer llai positif. Mae'r gwrthwynebwyr sydd yn alltud, yr wyf yn perthyn iddynt, yn ceisio peidio â gwneud pethau'n waeth. Os nad ydym yn dychwelyd i Syria, y prif reswm am hynny ydi nad ydym yn teimlo'n fuddugoliaethus. Rydym yn falch i'r gyfundrefn gael ei dymchwel, a bod Bashar al-Assad a'i ganlynwyr wedi eu gorfodi i adael dan y fath waradwydd, ond nid yw'r fuddugoliaeth hon yn perthyn i ni.

Os bydd rhagor o drais yn Syria, sydd yn eithaf tebygol, mi fydd yn digwydd rhwng yr Islamiaid mwy cymedrol a'r eithafwyr, ymraniad sy'n rhedeg hefyd ar hyd llinellau Syriaidd-cenedlaethol a jihadaidd rhyngwladol.

Pam ydych chi'n galw eich hun yn awdur ac nid yn ddeallusyn neu'n athronydd? A oes a wnelo â'ch arddull ysgrifennu, sy'n farddonol?

Nid oes neb yn y byd Arabaidd yn galw eu hunain yn ‘ddeallusyn', heb sôn am ‘athronydd' – dyna rywbeth y gall eraill ei ddweud amdanoch, ar y gorau. Mae iaith yn bwysig i mi, rydw i wrth fy modd â geiriau a llunio ymadroddion newydd, yn arbennig mewn Arabeg, sydd yn rhoi llawer o hyblygrwydd yn hyn o beth. Rydw i'n ystyried fy hun felly yn awdur neu'n ysgrifwr. Serch hynny, dim ond yn Ffrainc y mae pobl yn gwneud sylwadau ynghylch fy arddull farddonol. Credaf fod hynny'n deillio o'm cariad at eiriau, a chariad y Ffrancwyr at arddull.